Administrative Officer
New Yesterday
Join to apply for the Administrative Officer role at Cardiff University / Prifysgol Caerdydd
3 days ago Be among the first 25 applicants
Join to apply for the Administrative Officer role at Cardiff University / Prifysgol Caerdydd
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swyddog Gweinyddol, Canolfan Ymchwil Canser Cymru
Isadran Canser a Geneteg
Yr Ysgol Meddygaeth
Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd
Cenhadaeth Canolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC) yw arwain newid sylweddol mewn ymchwil canser yng Nghymru, drwy greu ffocws clir ac enw da am ragoriaeth mewn meysydd o gryfder thematig; denu buddsoddiad aml-sector i ehangu gweithgarwch ymchwil; a gwneud y mwyaf o gyfleoedd ymchwil i gleifion canser Cymru. Rydym yn gweithio tuag at y nod hwn drwy hwyluso gwaith cydweithredol ac integredig; buddsoddi mewn swyddi ymchwil ar hyd y llwybr gyrfa; a chyflawni gwaith prosiect sy'n galluogi gweithgaredd ymchwil. Mae’n gyfnod cyffrous yn WCRC gan ein bod yn ddiweddar wedi sicrhau cyllid am 5 mlynedd ychwanegol.
Rydym yn chwilio am Swyddog Gweinyddol brwdfrydig a phrofiadol, i ddarparu cefnogaeth gynhwysfawr a phroffesiynol i WCRC. Dylai ymgeiswyr fod yn hyderus mewn aml-dasgau, blaenoriaethu llwyth gwaith a gwasanaethu cyfarfodydd tra'n meddu ar sgiliau trefnu cryf.
Lleolir y swydd hon ar gampws Parc y Mynydd Bychan.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fanteision rhagorol, gan gynnwys 40 diwrnod o wyliau blynyddol (yn cynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol o fewn y raddfa gyflog, a mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio ynddo, lle byddwch yn wynebu llawer o heriau gwahanol. Mae hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.
Mae'r mwyafrif o swyddi ym Mhrifysgol Caerdydd yn gweithredu o dan drefniadau "gweithio cyfunol" ar hyn o bryd, gyda hyblygrwydd i staff weithio yn rhannol o’u cartref ac yn rhannol o gampws y Brifysgol yn dibynnu ar ofynion busnes penodol. Gall trafodaethau ynghylch y trefniadau hyn gael eu cynnal ar ôl i'r ymgeisydd llwyddiannus gael ei benodi.
Ar gyfer ymholiadau anffurfiol, cysylltwch â Dr Ceri Morris, Rheolwr Gweithrediadau WCRC – MorrisC10@caerdydd.ac.uk.
Swydd ran-amser yw hon (17½ awr yr wythnos), cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2030, ac mae ar gael ar unwaith. Nid yw'r patrwm gweithio rhan-amser wedi'i ddiffinio ymlaen llaw ond byddai disgwyl iddo rychwantu o leiaf 3 diwrnod, gan gynnwys dydd Mercher a dydd Iau.
Cyflog: £27,644 - £30,805 y flwyddyn, pro rata (Gradd 4). Fel arfer gwneir penodiadau i rolau ym Mhrifysgol Caerdydd ar waelod y raddfa oni bai fod amgylchiadau eithriadol.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Mawrth, 5 Awst 2025
Dyddiad cau: Dydd Sul, 31 Awst 2025
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a sicrhau amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu gred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
PWRPAS Y SWYDD
Darparu cymorth gweinyddol cynhwysfawr, proffesiynol i Ganolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC) o fewn yr Is-adran Canser a Geneteg. Bydd hyn yn cynnwys gweithio’n agos gyda staff y Ganolfan a phartneriaid allweddol ledled Cymru a’r DU, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i: adrannau eraill o fewn Prifysgol Caerdydd, ymchwilwyr academaidd, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, grŵp cynnwys cleifion a’r cyhoedd, Sefydliadau Addysg Uwch (SAU), y GIG, elusennau canser a sefydliadau ymchwil eraill.
Fel y brifysgol fwyaf yng Nghymru – a chyflogwr mawr, gyda mwy na 7,000 o staff – rydym yn brifysgol uchelgeisiol ac arloesol wedi’i lleoli mewn prifddinas hardd a ffyniannus. Gallwn gynnig y cyfle i chi weithio mewn sefydliad bywiog, gyda buddion a chyfleoedd gwych ar gyfer dilyniant.
DYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU
Dyletswyddau Allweddol
- Ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi Uwch Dîm Arwain a Thîm Hwb y WCRC, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i gymorth gweinyddol a gweithgarwch dilynol ar gyfer cyfarfodydd lefel uchel; cymorth gweinyddol ar gyfer llywodraethu rheolaidd a chyfarfodydd gweithgorau; gofyn am a choladu gwybodaeth ar gyfer adrodd arferol; gweinyddiaeth ariannol megis anfonebu; trefnu trefniadau teithio; a threfnu offer a chyflenwadau swyddfa.
- Darparu cyngor ac arweiniad manwl i sefydlu prosesau a gweithdrefnau gweinyddol ar gyfer y WCRC i gwsmeriaid mewnol ac allanol (staff, myfyrwyr neu aelodau'r cyhoedd), gan sicrhau bod y prosesau yn unol â pholisïau'r Brifysgol lle bo'n berthnasol.
- Defnyddio crebwyll, creadigrwydd a chynllunio i sefydlu, rheoli a monitro’r cymorth gweinyddol mwyaf priodol, a chyfrannu at ddatrys materion mwy cymhleth.
- Gwneud argymhellion i Gyfarwyddwr a Rheolwr Gweithrediadau WCRC ar gyfer datblygiadau a allai wella prosesau a gweithdrefnau gweinyddol WCRC.
- Sefydlu perthnasoedd gwaith cynhyrchiol ag unigolion allweddol (cydweithwyr yn y Brifysgol a chysylltiadau allanol) i helpu i wella lefel y gwasanaeth y mae’r tîm yn ei ddarparu i’w gwsmeriaid.
- O fewn Tîm Hyb WCRC, darparu’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y sefydliad, gan sicrhau ymagwedd broffesiynol a chyfeirio ymlaen neu ddatrys ymholiadau priodol.
- Rheoli dyddiadur Cyfarwyddwr WCRC, yn ôl yr angen.
- Datblygu cysylltiadau cyfathrebu priodol â staff WCRC a phartneriaid ymchwil allweddol, yn ogystal â Cholegau/Ysgolion/Cyfarwyddiaethau’r Brifysgol.
- Rheoli'r trefniadau gweinyddol a threfniadol, gan gynnwys cymryd cofnodion, ar gyfer gwahanol gyfarfodydd, cynadleddau a digwyddiadau hyfforddi. Mae hyn yn cynnwys cyfarfodydd o weithgorau a grwpiau llywodraethu allweddol WCRC, gan gynnwys yr Uwch Grŵp Arwain a grŵp cynnwys cleifion a’r cyhoedd sydd â chymeradwyaeth uchel WCRC.
- Cyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi'r tîm a'r adran i gyflawni ei amcanion.
- Casglu a dadansoddi data fel y gellir gwneud penderfyniadau gwybodus, sefydlu tueddiadau a phatrymau sylfaenol yn y data a darparu adroddiadau ac argymhellion ar gyfer rheolwyr.
- Cyfarwyddo ac arwain cydweithwyr ar draws y Brifysgol ac o fewn WCRC ar swyddogaethau gweinyddol yn ôl yr angen.
- Disgrifiad swydd yn parhau isod .. **
Dyletswyddau Cyffredinol
- Sicrhau bod dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd yn cael ei gymhwyso wrth gyflawni pob dyletswydd.
- Cadw at holl bolisïau'r Brifysgol a dilyn datblygiad personol a phroffesiynol priodol.
- Trawsgyflenwi â staff cydgysylltu eraill WCRC, fel y bo'n briodol.
- Cyflawni dyletswyddau eraill nad ydynt wedi'u cynnwys uchod, ond a fydd yn gyson â'r rôl.
- Cynnal Gwerthoedd ac Ymddygiadau Gwasanaethau Proffesiynol neu gyfwerth lleol.
Cefnogir y swydd hon trwy gyllid WCRC. Ariennir WCRC gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sef corff Llywodraeth Cymru sy’n datblygu, mewn ymgynghoriad â phartneriaid, strategaeth a pholisi ar gyfer ymchwil yn y GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Sut byddwn ni’n eich cefnogi i gyflawni’r rôl hon –
Mae’n Rhaid Bod Yn Gymwys o Ran Meini Prawf Penodol Cyn Gallu Dechrau’r Swydd Hon (gweler Yr Adran ‘Meini Prawf Hanfodol’), Ond Mae Modd Datblygu’r Elfennau Eraill Naill Ai Drwy Gael Hyfforddiant Neu Drwy Fagu Profiad Cyffredinol Yn y Swydd. Rydym Am Eich Cefnogi A’ch Datblygu Unwaith y Byddwch Wedi Dechrau Yn y Rôl Gan Ddefnyddio Cyfuniad O’r Canlynol i Sicrhau Eich Bod Yn Gallu Rhoi O’ch Gorau
- Cyfarfodydd un-i-un rheolaidd gyda'ch rheolwr
- Eich cefnogi o ran hyfforddiant a datblygiad perthnasol i'r swydd y gallai fod eu hangen arnoch
- Cynllun mentora
Rydym am gyflogi pobl ag amrywiaeth eang o brofiadau. Rydym yn croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned waeth beth fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oedran. Rydym yn chwilio’n arbennig am geisiadau gan ymgeiswyr sy’n dod o gefndiroedd a dangynrychiolir yn y Brifysgol, gan gynnwys pobl o gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.
Rydym yn chwilio am chwaraewr tîm a fydd yn gweithio gyda chydweithwyr i ddarparu gwasanaeth gwych i staff a myfyrwyr. Nid oes angen i chi fod wedi gweithio i Brifysgol o'r blaen; mae hwn yn gyfle i ddangos eich potensial a dechrau neu barhau eich gyrfa ym Mhrifysgol Caerdydd.
Gall y rôl hon fod yn gyfle i chi adeiladu ar eich profiad o weithio mewn rôl weinyddol flaenorol neu amgylchedd, gan ddangos eich sgiliau trosglwyddadwy a dawn i fod yn llwyddiannus yn y rôl. Dylech fod yn frwdfrydig ynghylch datblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau i ddod yn aelod gwerthfawr o'r tîm.
Bydd eich cais yn cael ei asesu yn erbyn y meini prawf hanfodol a dymunol canlynol ar gyfer y rôl. Copïwch a gludwch yr adran hon i mewn i ddogfen newydd a rhowch enghreifftiau clir o sut y gallwch ddangos tystiolaeth o fodloni pob maen prawf trwy ysgrifennu o dan bob un. Gallwch dynnu ar elfennau o unrhyw agwedd ar eich bywyd (e.e. gwaith, cartref, addysg/cymwysterau neu fywyd cymunedol) cyn belled â’ch bod yn canolbwyntio ar eu perthnasedd i’r rôl.
Cadwch eich datganiad ategol mewn dogfen ar wahân gyda'r teitl [EICHENW - 20297BR - SWYDDOG GWEINYDDOL] a'i atodi i'ch cais yn y system recriwtio.
Sylwch mai dyma hefyd y meini prawf y bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu hasesu yn eu herbyn mewn cyfweliad a/neu drwy ddulliau eraill (e.e. prawf sgiliau).
Meini Prawf Hanfodol
- Tystiolaeth o safon dda mewn rhifedd a llythrennedd TG.
- Profiad o weithio mewn rôl neu amgylchedd gweinyddol a'r gallu i sefydlu systemau a gweithdrefnau swyddfa safonol, gan wneud gwelliannau i'r rhain fel y bo'n briodol.
- Gwybodaeth arbenigol am sefydliadau sy’n datblygu ac yn cefnogi’n weinyddol gyda rhanddeiliaid lluosog (fel y GIG, SAUau, gwyddonwyr, ymchwilwyr canser, clinigwyr, cynrychiolwyr cleifion a’r cyhoedd, elusennau canser a sefydliadau ymchwil).
- Y gallu i gyfathrebu gwybodaeth arbenigol a chymhleth yn ysgrifenedig yn glir ac yn gryno yn effeithiol ac yn broffesiynol i ystod o gwsmeriaid gyda lefelau amrywiol o ddealltwriaeth.
- Y gallu i gynghori a dylanwadu ar randdeiliaid allweddol yn eich maes gwaith.
- Y gallu i archwilio anghenion cwsmeriaid ac addasu'r gwasanaeth a ddarperir gennych yn unol â hynny i sicrhau bod gwasanaeth o safon yn cael ei ddarparu.
- Tystiolaeth o allu i ddatrys problemau gan ddefnyddio menter a chreadigedd; nodi a chynnig atebion ymarferol a datrys problemau; dewis dull priodol, lle mae amrywiaeth o opsiynau posibl ar gael.
- Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth i derfynau amser, gan gynllunio a gosod blaenoriaethau ar gyfer eich gwaith eich hun.
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol neu brofiad cysylltiedig â gwaith cyfatebol.
- Profiad o ddarparu cymorth gweinyddol ar gyfer digwyddiadau mawr megis cynadleddau.
- Gwybodaeth am systemau ariannol electronig a chronfeydd data.
- Profiad o weithio mewn rôl neu amgylchedd tebyg, e.e. Addysg Uwch.
- Y gallu i siarad/deall Cymraeg neu barodrwydd i ddysgu.
Seniority level
Seniority level
Mid-Senior level
Employment type
Employment type
Full-time
Job function
Job function
AdministrativeIndustries
Higher Education
Referrals increase your chances of interviewing at Cardiff University / Prifysgol Caerdydd by 2x
Sign in to set job alerts for “Administrative Officer” roles.
London, England, United Kingdom 5 days ago
London, England, United Kingdom 3 weeks ago
London, England, United Kingdom 2 weeks ago
London, England, United Kingdom 1 week ago
London, England, United Kingdom 1 month ago
London, England, United Kingdom 5 days ago
London, England, United Kingdom 1 day ago
Harrow, England, United Kingdom 2 days ago
London, England, United Kingdom 4 days ago
Executive Assistant to Chief Commercial Officer - 12-month Maternity Cover
London, England, United Kingdom 1 week ago
London, England, United Kingdom 2 months ago
Greater London, England, United Kingdom 2 weeks ago
London, England, United Kingdom 2 weeks ago
City Of London, England, United Kingdom £30.00-£34.00 1 week ago
London, England, United Kingdom 2 days ago
City Of London, England, United Kingdom £35,000.00-£36,000.00 2 weeks ago
City Of London, England, United Kingdom £35,000.00-£45,000.00 1 month ago
London, England, United Kingdom 5 days ago
London, England, United Kingdom 5 days ago
Executive Assistant to Chief Executive Officer
Assistant Company Secretary - London or Harrogate
London, England, United Kingdom 5 days ago
London, England, United Kingdom 2 hours ago
London, England, United Kingdom 3 weeks ago
London Office - Company Secretary Assistant (m/f/d)
London, England, United Kingdom 4 hours ago
Wimbledon, England, United Kingdom 4 days ago
London, England, United Kingdom 6 days ago
Executive Office, Office of Government and Regulatory Affairs, London, Administrative Assistant
London, England, United Kingdom 2 weeks ago
London, England, United Kingdom 4 days ago
London, England, United Kingdom 1 week ago
We’re unlocking community knowledge in a new way. Experts add insights directly into each article, started with the help of AI.
#J-18808-Ljbffr- Location:
- Greater London, England, United Kingdom
- Salary:
- £60,000 - £80,000
- Job Type:
- FullTime
- Category:
- Human Resources
We found some similar jobs based on your search
-
New Yesterday
Administrative Officer
-
Greater London, England, United Kingdom
-
£60,000 - £80,000
- Human Resources
Join to apply for the Administrative Officer role at Cardiff University / Prifysgol Caerdydd 3 days ago Be among the first 25 applicants Join to apply for the Administrative Officer role at Cardiff University / Prifysgol Caerdydd Caniateir i ge...
More Details -
-
3 Days Old
Administrative Officer
-
London, England, United Kingdom
-
£80,000 - £100,000
- Human Resources
Administrative Officer - National Asylum Accommodation Unit (NAAU) Job Description Administrative Officer Location: 2 Ruskin Square, Dingwall Road, Croydon CR0 2WF Hourly rate: £15.92p/hr, hourly rate increases depending on shift pattern after t...
More Details -
-
3 Days Old
Administrative Officer
-
Spennymoor, England, United Kingdom
-
£60,000 - £80,000
- Human Resources
An exciting opportunity has arisen for a Administrative Officer to join our busy, friendly team, supporting Children and Young People’s Services. 1 x 18.5 Permanent 1 x 18.5 Temporary until March 2026 One person could carry out both posts making it...
More Details -
-
10 Days Old
Administrative Officer
-
Forest Of Dean, England, United Kingdom
-
£60,000 - £80,000
- Human Resources
Join us. We're foresters, professionals and experts. We are a passionate team who love to share our enthusiasm and want to make a positive difference for you and the environment. Together, we’re using our scale and expertise to grow the nation’s fore...
More Details -
-
11 Days Old
Defence Business Services (DBS) - AO Administrative Officer
-
United Kingdom
-
£60,000 - £80,000
- Human Resources
The Ministry of Defence is seeking a dedicated and detail-oriented Administrative Officer – Recruitment and Onboarding to support our Human Resources team. This pivotal role will assist in the coordination, administration, and delivery of recruitmen...
More Details -